29.1.08

"Yr iaith"

Dwi'n hynod o ddiolchgar i'r BBC am gynnal gwefan newyddion yn y Gymraeg. Ond mae'r penawdau sy'n cael eu rhoi i straeon yn benbleth cyson i mi. Weithiau, wrth edrych ar y penawdau sy'n ymddangos yn yr RSS feed, does gen i ddim mo'r syniad cyntaf am be mae'r stori'n son. Ac ar adegau eraill, mae nhw'n fy ngamarwain i'n llwyr.

Pechod mwyaf y safle yw defnyddio "yr iaith" pan yn son am ieithoedd heblaw am y Gymraeg. Heddiw, mae 'na stori yn dwyn y teitl "Sianel newydd : hwb i'r iaith". Sydd yn awgrymu bod 'na stori anferth - creu S4C 3, efallai - ar fin torri. Ond cyfeirio at Y Wyddeleg mae'r stori, er mai Cymraeg yw yr iaith. "Sianel newydd : hwb i'r Wyddeleg" yw'r pennawd priodol yn y fan hyn.

Dwi'n gwybod nad yw hi'n beth iach treulio gormod o amser yn poeni am y pethau 'ma. Ond rywsut, fedra i ddim peidio.

3 comments:

Emma Reese said...

Diolch am y post ma. Dw i wedi defnyddio "yr iaith" o'r blaen yn golygu iaith arall er mwyn osgoi ailadroddiad.

david h jones said...

Mae ymchwil Cymru'r Byd yn dangos fod pobl yn fwy tebygol o wasgu botwm a darllen stori os yw'r gair 'iaith' ynddo.

'Iaith' yw'r 'sex' Cymraeg mae'n amlwg ;-)

Dyfrig said...

Emma,
Dwi ddim yn arbennigwr ieithyddol o bell ffordd. Ond mae hi'n berffaith gywir defnyddio "yr iaith" i osgoi ail-adrodd, cyn belled a'i bod hi'n amlwg am pa iaith ti'n son. Ond os nad wyt ti'n enwi'r iaith dan sylw, yna mae'r darllenydd yn cymeryd yn ganiataol mai yr iaith yw'r un sy'n cael ei siarad/ysgrifennu.