30.12.08

Newid cyfeiriad

Yn y gorffennol, bu'r blog yma yn ymdrin yn bennaf a materion yn ymwneud a fy ngwaith fel golygydd cylchgrawn Barn. Ers rhai misoedd, bellach, mae gan Barn wefan newydd, ac mae gen i flog swyddogol yn rhedeg ar y wefan honno. Felly o hyn ymlaen, bydd y blog yma yn un cwbl answyddogol, yn ymwneud a phopeth heblaw am fy ngwaith gyda Barn.

3 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Ahhh....Dyfrig Dau Farn....un swyddogol ar flog Barn ac un answyddogol ar y blog hwn.
Be sy'n digwydd pan ti'n eistedd ar y ffens heb ddim barn....oh...Dyfrig Dim Barn.
Deallt yn iawn ;-)
Blwyddyn Newydd Dda i ti.

Dyfrig said...

Tydw i ddim yn trafod fy ngwaith i ar y Cyngor yn nhudalennau Barn, nac ar wefan Barn, gan y byddai hynny yn gwbl amhriodol. Mae'r blog yma yn bodoli, felly, i mi gael cyfle i drafod yn gyhoeddus fy ngwaith fel Cynghorydd, ymysg pethau eraill.

Anonymous said...

Sa i yn gallu gweld sut ma rhywyn yn gallu bod yn Gynghorydd unrhyw blaid wleidyddol pan yn gweithio i'r wasg. Tydi BBC ddim yn gadael neb gael swydd felly os nad ydynt yn anibynnol. Felly pam fod Barn yn wahannol ?