26.2.09

Diwrnod digalon - ond dim rhwyg

Dwi newydd gyrraedd adref o gyfarfod hir a blinedig o Gyngor Gwynedd. I ddweud y gwir, mae heddiw wedi siglo (ymhellach) yr ychydig ffydd sydd gen i mewn llywodraeth leol. Roedd 'na nifer o bynciau pwysig, ond cynhennus, o'n blaenau heddiw - a dwi ddim yn credu y byddai gan y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog unrhyw ddiddordeb mewn gwybod y manylion. Ond yr hyn a ddaeth yn amlwg heddiw oedd bod 'na gyfran helaeth o fy nghyd-Gynghorwyr sydd yn gwrthod cymeryd eu rol fel aelod o awdurdod lleol o ddifri. Mae 'na lawer iawn o gynghorwyr da iawn ar y Cyngor - o bob plaid (gan gynnwys Llais Gwynedd). Ond mae 'na hefyd lawer iawn o bobl sydd yn dewis anwybyddu y ffeithiau sydd yn cael eu gosod o'u blaenau - neu yn methu a deallt y ffeithiau hynny - a sydd yn gweithredu yn blwyfaidd, yn blentynaidd ac yn llethol o geidwadol. Mae'n siwr y cai fy nghyhuddo o fod yn amharchus wrth ddweud hyn, ond mae hi'n amhosib i mi beidio. Er bod llai na blwyddyn ers i mi gael fy ethol, dwi yn anobeithio ynglyn a dyfodol y Cyngor.
Yr unig beth cadarnhaol sydd gen i'w ddweud yw na wnaeth y rhwyg yn rhengoedd Plaid Cymru yr oedd Gwilym Euros Roberts yn ei darogan ymddangos. Oedd, roedd un pleidlais yn arbennig o agos - 28 i 29. Ond dim ond 3 aelod o Blaid Cymru wnaeth bleidleisio yn erbyn yr arweinyddiaeth, gyda 4 arall yn ymatal eu pleidlais. Dwi'n tybio y byddwn ni'n disgwyl yn eithaf hir cyn y gwelwn ni dystiolaeth bod rhwyg Gwilym Euros yn bodoli go iawn.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Mae'n siŵr bydd y ffaith nad yw'r Blaid wedi ei rwygo yn galondid mawr i drigolion Bryn Llywelyn a'u teuluoedd, wrth i'r henoed cael eu troi allan o'u cartref.

Os yw cael cynghorwyr iau yn golygu cael cynghorwyr sydd mor ddideimlad o anghenion yr henoed ac i ddatgan bod y sawl sydd am gau cartref hapus a llwyddiannus yn "gwrthod cymeryd eu rôl fel aelod o awdurdod lleol o ddifri", gwell byddid cyngor heb eu presenoldeb.

Anonymous said...

Clywch Clywch. da iawn Mr ap Huw