16.9.09

Y sector breifat a gwasanaethau cyhoeddus

Wedi bod yn cael trafodaeth ddifyr gyda John Dixon draw ar ei flog ef, sydd yn berthnasol i fy nghofnod olaf ar y blog, a rhai o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud gan Plaid Whitegate. Wna i ddim ail-adrodd fy safbwynt - ewch draw i ddarllen, a chyfrannu at, y drafodaeth ar flog John Dixon.
Dwi yn credu bod angen i Blaid Cymru edrych mewn mwy o fanylder ar ddefnyddio'r Setor Breifat i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Cangymeriad ydi credu bod mabwysiadu safbwyntiau "Hen Lafur" yn mynd i ennill cefnogaeth i ni bob tro. Gwasanaethau cyhoeddus atebol ac effeithlon mae etholwyr yn ddymuno eu gweld, nid plaid sydd yn glynnu yn dynn i ddogma.

3 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfrig - Cytuno 100% efo ti os oes modd cael gwerth am arian yn ogystal a diogelu neu gwella gwasnaethau i'r cyhoedd. Yn sicir werth ei ystyried ac yn rhywbeth dwi wedi ei ddweud sawl tro mewn cyfarfodydd yn y Cyngor yn enwedig mewn adrannau penodol.

Gethin Williams said...

Dwi hefyd yn cytuno hefo ti. Hefo'r holl toriadau ar y gorwel bydd rhaid ystyri pob peth.

Anonymous said...

Cytuno nad oes isio mynd i fod yn "hen Lafur" - mae cefnogi gwasanaethau cyhoeddus blaengar a mentrus yn rhan hanfodol o'r chwith libertaraidd nid yr hen Stalinists.

A cofia mai dogma oedd credo Thatcher "private good, public bad" -dwi'n credu fod na beryg i ni fynd lawr y lon yna eto. Ac os ydyn ni'n defnyddio cwmniau preifat i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, i ba raddau yr ydan ni am weld cwmniau mawr o Loegr yn cynnig y pris rhataf ac - ar bapur - yn cynnig y del gorau? Gem beryg iawn.