18.7.12

Dafydd El a chwip y Blaid

Fe fydd y rhan fwyaf ohonoch yn gwybod erbyn hyn bod Plaid Cymru wedi tynnu'r chwip oddi ar Dafydd Elis-Thomas, am iddo beidio a mynychu'r Cynulliad heddiw i gymeryd rhan mewn pleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd. Tydw i ddim bob tro yn cytuno a Dafydd El, a dwi wedi mynegi'r anghytundeb hwnw yma, yn y gorffenol. Ond yn yr achos hwn, dwi'n credu ei fod wedi cael ei drin yn shabby iawn.

Un o broblemau Dafydd yw ei fod yn llai na pharchus o egwyddorion collective responsibilty. Pan mae rhywun yn ymuno a grwp gwleidyddol, maent yn cael yr hawl i fynegi barn bersonol o fewn y grwp hwnw. Ond wedi cael y cyfle i fynegi'r farn honno yn fewnol, unwaith y bydd y grwp wedi dod i benderfyniad mae disgwyl i bob unigolyn gefnogi'r penderfyniad hwnnw yn gyhoeddus. Dwi'n tybio y byddai Dafydd wedi cael y cyfle i fynegi ei farn ar y bleidlais o ddiffyg hyder wrth ei gyd-aelodau, ac eu bod wedi anghytuno ag o. Drwy feirniadu safbwynt y grwp yn gyhoeddus, mae Dafydd wedi mynd yn groes i egwyddor collective responsibility, sydd yn dangos amharch tuag at ei gyd-aelodau.

Dwi ddim yn gwybod beth yn union yw rheolau sefydlog grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad, ond mi ydw i'n gyfarwydd a rheolau grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. Mae ein rheolau ni yn cydnabod bod sefyllfaoedd yn codi lle nad yw'r aelod unigol yn gallu cefnogi safbwynt y grwp, sydd yn beth eithaf cyffredin. Does gan aelodau o'r grwp ddim hawl i bleidleisio yn erbyn y chwip, ond mae ganddynt yr hawl i atal eu pleidlais. Mae'r egwyddor yma yn eithaf cyffredin o fewn grwpiau gwleidyddol, dwi'n credu.

Tra mod i'n teimlo y dylai Dafydd Elis-Thomas geisio brathu ei dafod yn achlysurol, dwi ddim yn credu bod ei absenoldeb o'r Cynulliad heddiw yn fater disgyblaethol. Mae wedi anghytuno a safbwynt y grwp, ac wedi dewis atal ei bleidlais. Dwi ddim yn gweld beth sydd yn amhridol yn yr achos yma, ac yn methu deall pam fod y chwip wedi ei thynnu nol.

Mae hyn yn adlewyrchu yn wael iawn ar y Blaid, ac yn debygol o godi gwrychyn sawl un ar lawr gwlad. Tra'i bod yn hawdd iawn gweld bai ar Dafydd, byddai ei erlid o Blaid Cymru - ac i freichiau Llafur - yn golled anferthol i Blaid Cymru.

18.5.12

Clymblaid Cyngor Gwynedd

Ddoe fe gyfarfu Cyngor newydd Gwynedd am y tro cyntaf, yn bennaf i ethol swyddogion, proses a fydd yn arwain ar greu Cabinet ddechrau'r wythnos nesaf. Ers 1996, mae Cyngor Gwynedd wedi gweithredu o dan drefn Bwrdd, yn wahanol i'r 21 o gynghorau eraill yng Nghymru. O dan y drefn hon, roedd pob grwp gwleidyddol ar y Cyngor yn cael eu cynrychioli ar Fwrdd y Cyngor - y corff a oedd yn gosod cyfeiriad polisi - yn unol a'u cynrychiolaeth ar y Cyngor Llawn. Felly, cyn yr etholiad eleni roedd Plaid Cymru yn dal 7 o'r 15 sedd ar y Bwrdd (gan fod gennym ychydig dros hanner aelodau'r Cyngor) gyda'r 8 sedd arall wedi eu rhannu rhwng y pleidiau eraill. Ond, yn eu doethineb, fe benderfynnodd Llywodraeth y Cynulliad y dylid newid y system hon, ac o ddoe ymlaen, bydd Cyngor Gwynedd yn cael ei redeg gan Gabinet, fel gweddill cyngorau Cymru.

O dan y drefn newydd, mae'r Cyngor Llawn yn ethol Arweinydd, ac mae'r Arweinydd yn dewis 10 aelod i eistedd yn y Cabinet - corff sy'n llawer iawn mwy grymus na'r hen fwrdd. Yr unig benderfyniadau y gall y Cyngor Llawn eu gwneud yw ethol Arweinydd, gosod cyllideb, a gosod strategaeth hir-dymor. Mae pob penderfyniad arall yn cael ei wneud gan y 10 aelod sydd yn y Cabinet, ac yna yn cael eu craffu gan weddill yr aelodau etholedig, mewn pwyllgorau. Gall yr aelodau eraill gynnig gwellianau, neu argymell peidio a dilyn trywydd arbennig, ond nid ydynt yn gallu gwyrdroi penderfyniad y Cabinet.

Roedd dewis Arweinydd yn fater o bwys, felly. Fel y gwyr y rhan fwyaf ohonoch chi, does gan Blaid Cymru ddim mwyafrif ar y Cyngor, ac felly doedd hi ddim yn bosib i ni ethol Dyfed Edwards yn Arweinydd - ac felly sicrhau rheolaeth Plaid Cymru o'r Cabinet - heb gymorth un o'r grwpiau eraill. Rhoddwyd gwahoddiad i bob un o'r grwpiau eraill gynnig syniadau ar gyfer cyd-weithio, ond dim ond gyda dau grwp, Llafur a'r Grwp Annibynnol, y bu unrhyw drafodaethau difri. Daeth yn amlwg nad oedd hi'n bosib dod i gytundeb gyda'r Grwp Annibynnol cyfan, ac felly yr unig ddewis i Blaid Cymru oedd clymbleidio gyda Llafur. Tra fod anesmwythder o fewn grwp Plaid Cymru ynglyn a mynd i'r gwely gyda plaid sydd wedi bod yn elyn traddodiadol i ni yng Ngwynedd am genhedlaeth, roedd y grwp yn credu bod pobl Gwynedd yn haeddu llywodraeth effeithlon, ac felly fe ddaethom i ddealltwriaeth a'r grwp Llafur.

Mae 'na ambell un wedi gofyn pam na fyddai Plaid Cymru a Llais Gwynedd wedi dod i gytundeb, gan awgrymu fod 'na fwy yn uno ein dwy blaid nac unrhyw ddau grwp arall ar y Cyngor. Er nad ydw i bellach yn prynnu Golwg, cefais gip arno ddoe, a gweld fod llythyr yn galw ar ddwy garfan genedlaetholgar Gwynedd i gymodi, a cyd-arwain y Cyngor. Roedd Rhys Llwyd ar Twitter yn cynnig yr un ddadl. Ac i rywun o'r tu allan, dwi'n gallu deallt pam ei bod yn apelgar. Maent yn gweld Llais Gwynedd fel rhyw fath o fersiwn mwy radical o Blaid Cymru; yn llai sefydliadol, yn fwy cymunedol, ond yn hanfodol genedlaetholgar. Y broblem ydi fod y dehongliad yma o Lais Gwynedd yn gwbl anghywir.

Tydw i ddim yn gwybod i ba raddau y gellir disgrifio Llais Gwynedd fel grwp cenedlaetholgar. Does dim amheuaeth bod 'na dri cenedlaetholwr amlwg - Now Gwynus, Alwyn Gruffydd a Seimon Glyn - yn perthyn i'r grwp (a dwi'n cymeryd y gellid ychwanegu enw merch Seimon, Gwenno, at y rhestr honno). Ond nhw yw'r unig rhai (o fewn grwp o 13 Cynghorydd) sydd yn arddel unrhyw fath o genedlaetholdeb agored. Fe fyddwn i'n tybio bod llond dwrn o'r 10 sydd ar ol yn arddel rhai o nodweddion cenedlaetholdeb yn breifat, ond nid yw'n rhan o'u disgwrs gwleidyddol fel aelodau o'r Cyngor. Ac mae 'na leiafrif ar y pegwn arall i Seimon, Now ac Alwyn sydd yn gwthio agenda sydd yn gwbl wrthun i'r math o genedlaetholdeb flaengar sydd yn nodweddu Plaid Cymru; maent yn geidwadol, yn blwyfol, yn wrth-ddeallusol, yn negyddol, ac yn aml yn Saesnig dros ben. Edrychwch ar dudalen Facebook y grwp  neu flog Aeron Jones os ydych am weld y tueddiad yma ar ei waethaf. Yn syniadaethol, mae Llais Gwynedd yn nes at UKIP na Phlaid Cymru.

Cangymeriad yw credu fod Llais Gwynedd yn grwp cenedlaetholgar. Maent yn grwp gwleidyddol sydd yn cynnwys amrediad helaeth o safbwyntiau, gan gynnwys peth cenedlaetholdeb. Yr unig beth sydd yn eu huno yw eu gwrthwynebiad i Blaid Cymru, a'u negyddiaeth tuag at y drefn bresenol o lywodraeth leol. Ar lefel syniadaethol, does 'na ddim rheswm da pam y dylai Plaid Cymru ystyried clymbleidio gyda Llais Gwynedd. A phetai Llais Gwynedd yn llwyddo i glymbleidio gyda unrhyw un i reoli Cyngor Gwynedd, byddai'n arwain yr Awdurdod i lawr yr un llwybr a Chyngor Mon. Am y ddau reswm yma, mae clymblaid rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd yn gyfangwbl amhosibl.

16.3.12

Cau Cob

11 oed oeddwn i'n mynd i Cob Records ym Mangor am y tro cyntaf. Ishio copi o Anfield Rap oeddwn i, ond doedd 'na 'run ar ol, a mi es i o'no efo copi o Bad Young Brother Derek B. Diddordeb mewn pel-droed nath fy ngyrru yno i ddechrau, ond yn fuan iawn mi oedd y bel gron (a phob pel, bat a rhwyd arall) wedi colli ei apel, a'r rhesaid o records tu ol i ddesg Cob wedi cymeryd ei lle. Wrth i mi fynd rhyw ychydig yn hyn, mi aeth y siop yn fan cyfarfod wythnosol i griw ohona ni. Doedd y rhan gefn sydd yn y siop heddiw ddim yn bodoli, ac i fyny'r grisiau, lle 'roedd y tapiau'n cael eu cadw fydda ni'n treulio p'nawniau dydd Sadwrn. Roedd 'na silff ffenest lydan ym mlaen y llawr ucha, ac mi fydda staff y siop yn oddefgar iawn efo criw o hogia yn eu harddegau cynnar yn isda yn fanno am hydoedd, yn smocio ffags.


Sbio ar gloria oedda ni, yn amlach na phrynnu dim byd - Dwi'n dal i gofio bod yn fy nybla yn chwerthin ar glawr cefn Pioughd gan The Butthole Surfers. Ond chymerodd hi ddim llawer i mi ddechrau cymryd diddordeb yn y records eu hunain. Mi oedd 'na dipyn go lew o staff presenol Cob yn gweithio yno nol yn y 90au cynnar, ond yr un fuodd fwyaf parod i feithrin ein criw ni oedd Alun Cob, sydd bellach yn awdur (ac arbenigwr ar Jac y Ddafad Wyllt). Fo ddaeth o hyd i gopi o Wyau Datblygu i mi, ar ol i mi brynnu Pyst ar faes y 'Steddfod, a methu dod o hyd i'r albym cynt. Fo hefyd oedd yn ddigon clen - flynyddoedd yn ddiweddarach - i roi copi arall am ddim i mi o Theme gan The Sabers of Paradise ar ol i mi adael fy nghopi fi yn ffenest gefn y car ar ddiwrnod poeth.

Erbyn i mi gyrraedd diwedd fy arddegau mi oedd y rhan fwyaf o pa bynnag bres oedd yn dwad i'n rhan i'n cael ei wario yno. Ar ol dod nol o'r Brifysgol yn Leeds, a cael gwaith oedd yn talu'n dda, mi es i'n gwsmer rhy selog o lawer. Mae 'na bentwr mawr o finyl yn llenwi rhan helaeth o'm 'stafell fyw hyd heddiw, a'r rhan fwya' wedi dod o Cob Bangor.

Wedi deud hyn, cwsmar gwael iawn ydw i wedi bod ers blynyddoedd bellach. Ac eithrio stereo ges i'n bresant 'dolig yn 16 oed, ac a arhosodd adra pan es i i'r coleg, tydw i 'rioed wedi bod yn berchen ar chwaraewr CD, a 'does gen i ddim CDs yn fy nghasgliad. Ond mi oedd dyfodiad y we yn newid byd anferth. Yn hytrach na gorfod tyrchu drwy resi o records ail-law yn gobeithio dod ar draws rhyw berl, neu aros i weld a fyddai copi finyl prin o albym newydd yn dod i Cob, mi oedd eBay yn cynnig y byd i mi ar blat. Mi oedd holl gyfoeth degawdau ar gael o fy nesg yn y gwaith, ac mi ddechreuais ymweld yn llai aml a Cob.

Gwaethygu wnaeth petha pan ges i laptop, band-eang ac iPhone. Rwan, doedd ddim hyd yn oed rhaid i mi aros i'r record gael ei phostio. Mae 'na rhywun yn awgrymu albym newydd, dwi'n estyn ffon o'm mhoced, ac mewn pum munud dwi'n gwrando arni. Dwi'n dal i brynnu recordiau, o bryd i'w gilydd - ond fel arfer dwi'n agor y pecyn i gael y cod llawrlwytho, cael gafael ar yr mp3s, a gadael i'r record isda ar y silff yn casglu llwch.

Gyda euogrwydd es i mewn i Cob am y tro olaf wythnos dwytha, felly. Fi a'm tebyg sy'n gyfrifol fod y lle yn cau. Mi o'n i'n gwbod bod 'na sel hanner pris, ac mi oedd mynd trwy'r silffoedd yn teimlo fatha ysbeilio rhyw hen feddrod. Ychydig iawn oedd 'na ar ol, mewn gwirionedd, ac mi brynnais i rhywbeth ar hap, am bod gen i ormod o gywilydd cerdded allan yn waglaw. Dwi'n dilyn Bonnie "Prince" Billy ers blynyddoedd, ond yn teimlo ei fod wedi hen basio'i orau. Ond mi oedd 'na record ddiweddar nad oedd yn fy nghasgliad i, ac mi o'n i'n licio'r clawr, felly mi es i a hi efo fi. A - syndod a rhyfeddol - wedi gwrando ar y record (sef Bonnie Prince Billy and The Cairo Gang - The Wonder Show of the World) mae hi'n wych. Heb fynd i mewn i'r siop, efo'r awydd i brynnu beth bynnag oedd ar gael, mae'n debyg na fyddwn i wedi dod ar draws hon. Ydi, mae'r we yn haws, ac yn cynnig rhagor o ddewis. Ond mae 'na rhywbeth yn arbennig am bori trwy'r silfoedd, a tharo yn ddamweiniol ar glasur annisgwyl fel hon. Er gwaetha fy esgelustod diweddar, fe fydd colli Cob yn golled anferth i mi, ac i bawb fu yno'n pori dros y blynyddoedd.

28.2.12

Pam fy mod yn cefnogi Elin Jones

Mae'r papur pleidlais wedi cyraedd o'r diwedd, ac mae'n cael ei lenwi a'i bostio nol heddiw. Os ydych wedi darllen fy negeseuon blaenorol, fe ddylech wybod nad oes gen farn eithriadol o gref y naill ffordd neu'r llall ar yr ymgeisyddion. Dwi wedi rhoi sylw eithaf helaeth i Leanne Wood a Dafydd Elis-Thomas yn barod ond i grynhoi yn gyflym, dwi'n credu bod Leanne yn meddu ar y sgiliau personol i fod yn arweinydd eithriadol o effeithiol, ond mae ei gwleidyddiaeth yn rhy bell i'r chwith. Mae Dafydd Elis-Thomas eto yn rhywun sydd a'r ddawn i arwain, ond mae ei gefnogaeth i'r Blaid Lafur yn peri anhawster i mi - heb son am ei gefnogaeth i'r frenhiniaeth. Sydd yn dod a ni at yr unig ymgeisydd sydd ar ol yn y ras, Elin Jones.

Does dim amheuaeth bod Elin Jones yn wleidydd eithriadol o ddawnus. Mae wedi enill sawl etholiad caled mewn sedd sy'n parhau i fod yn un ymylol i Blaid Cymru. Yn bwysicach na'i dawn etholiadol, mae wedi dangos ei gallu fel Gweinidog yn y Cynulliad. Os yw Plaid Cymru o ddifri am fod yn blaid lywodraethol, mae'n rhaid i ni allu dangos bod gennym ni'n gallu i lywodraethu - byddai enill mwyafrif mewn etholiad cyffredinol, ac yna gwneud smonach o'r 4 blynedd ganlynol, yn ein gwneud yn wrthblaid barhaol am genhedlaeth arall.

Y ffordd orau o berswadio pobl Cymru fod rhinwedd i annbiynniaeth yw drwy ddefnyddio'r system bresenol i lywodraethu'n effeithiol. Mae pawb yn gwybod bod hanes Plaid Cymru yn hanes o wrthwynebu, ac mae sawl un wedi dadlau dros y 10-15 mlynedd diwethaf nad yw Plaid Cymru yn gallu gweithredu fel plaid llywodraethol. Mae cyfnod Cymru'n Un wedi dangos mae lol yw hyn, a fod gan Blaid Cymru y gallu i lywodraethu - ac Elin Jones (ynghyd ac Alun Ffred Jones) wnaeth un o'r cyfraniadau pwysicaf i chwalu dadl y rhai sy'n ceisio ein paentio efo'r un brws a'r Lib-Dems. Mae Elin wedi dangos fod modd gwella Cymru drwy ddal portffolio yn llywodraeth Cymru, ac mae hyn yn rinwedd mawr mewn arweinydd.

Mae Elin Jones hefyd yn llawer iawn nes at fy anian gwleidyddol i na'r un o'r ddau arall. Dwi'n ystyried fy hun ar y Chwith, ond ar y chwith gymhedrol. Tydw i ddim yn credu fod modd adeiladu Cymru llewyrchus, nac enill tir etholiadol i Blaid Cymru drwy symud ymhellach i'r chwith na'r Blaid Lafur. Dwi ddim yn dweud am eiliad bod Elin Jones yn rhannu union yr un weledigaeth a mi, ond yn sicr mae hi'n nes ata i na'r ddau arall. Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru fydd yn gosod cyfeiriad y blaid, nid yr arweinydd, ond does dim diben gwadu fod gan arweinydd ddylanwad. Fe hoffwn i weld Plaid Cymru yn symud i gyfeiriad gweledigaeth Elin Jones, yn hytrach na gweledigaeth Leanne Wood.

Dwi wedi pendronni yn hir dros pwy ddylai gael fy ail a thrydedd pleidlais, a'r gwir amdani yw ei bod hi'n amhosib gwahaniaethu. Fe fyddaf yn cefnogi pa bynnag un o'r tri a gaiff ei h/ethol, ac yn gwneud hynny a brwdfrydedd. Ond o ran bwrw pleidlais, fedra i ddim dweud fy mod yn cefnogi Dafydd dros Leanne, na Leanne dros Dafydd. Dim ond un pleidlais fydda i'n ei bwrw yn yr etholiad yma felly, a honno dros Elin Jones.

3.2.12

Yr arweinyddiaeth - Leanne Wood

Mae ymgeisyddiaeth Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi bod ar fy meddwl tipyn heddiw. Cafodd le amlwg mewn erthygl yn y Guardian ddoe a arweiniodd at flog diddorol gan Betsan Powys heddiw A fel mae'n digwydd, mae hi wedi bod yn Nyffryn Nanlle heno, yn siarad ac aelodau; er nad oeddwn i yno fy hun, mae ambell un ar fy ffrwd Twitter wedi nodi bod dros 100 yn bresennol yno.


Yn ol John Harris yn y Guardian, Leanne Wood yw'r ffefryn i enill y ras. Dwi ddim yn dymuno bod yn amharchus tuag at Harris, gan fy mod yn mwynhau llawer o'i ysgrifennu. Ond newyddiadurwr yn ysgrifennu am gerddoriaeth yw Harris yn wreiddiol, sydd bellach yn ysgrifennu darnau gwleidyddol eithaf meddal, yn aml yn ymdrin a chymunedau dosbarth gweithiol, a'u dadrithiad gyda Llafur. Ysgrifennodd lyfr am yr union bwnc yma nol yn 2005 Yn y gyfrol honno, mae'n rhoi ychydig o le i Blaid Cymru, gan ysgrifennu darn yn clodfori'r Aelod Seneddol disglair, ifanc, Simon Thomas - a gollodd ei sedd yn San Steffan rai misoedd yn ddiweddarach. Felly maddeuwch i mi os nad ydw i'n rhoi gormod o bwys ar ddadansoddiad Mr Harris.

Un o wendidau Harris yw ei fod yn canolbwyntio yn ormodol ar straeon personol. Mae yn hoff o greu naratif afaelgar, yn troi o amgylch cymeriadau cryf (sydd ddim yn ormod o her i'w crynhoi mewn erthygl papur newydd o rhyw fil neu ddwy o eiriau). Ac mae stori Leanne Wood, ar hyn o bryd, yn un dda. Mae ganddi gefnogaeth rhai o enwau mawr y Blaid, ac ar Twitter a Facebook, ei henw hi sydd i'w glywed amlaf o beth dipyn. Hi yw'r lleiaf traddodiadol (o ran cefndir cymdeithasol), a'r mwyaf radical (o ran gwleidyddiaeth), o'r pedwar sydd yn y ras. Mae wedi adnabod yr angen am bendantrwydd ac eglurder ynglyn a phwrpas a chyfeiriad y Blaid, ac wedi gosod yr agenda; i'r fath raddau fel bod hyd yn oed Dafydd Elis-Thomas wedi rhoi semantics o'r neilltu, am y tro. Serch hyn i gyd, dwi'n credu nad oes gan Leanne obaith o enill, ac mae yn y trydydd safle - tu ol i Elin Jones a DET - fydd hi'n gorffen y ras.

Pam? Yn bennaf, oherwydd nad oes ganddi sylfaen gref o gefnogwyr ymhlith aelodau o'r Blaid, problem sydd yn mynd i gael ei gwaethygu gan y system bleidleisio gyfrannol. Dwi'n aelod o gangen Dyffryn Ogwen, sef yr ail gangen fwyaf yng Nghymru, ar ol Caernarfon. Mae llawer iawn o'r aelodau hyn wedi cefnogi Plaid Cymru ers degawdau, rhai - fel fi - yn blant i'r genhedlaeth o bobl ifanc a dorrodd gyda traddodiad Llafur/Rhyddfrydol eu rhieni ynghanol yr 20fed Ganrif i ymuno a Phlaid Cymru. Mae'r rhain yn bobl sydd yn adnabod Dafydd Elis-Thomas yn dda, a sydd yn teimlo cysylltiad teuluol ag o; mae llawer iawn o enw da Plaid Cymru yn Arfon a Meirionydd yn deillio o'r gefnogaeth a roddodd y ddau Ddafydd a Gwynfor Evans i'r cyn-chwarelwyr a'u teuluoedd a gafodd eu taro gan psilicosis. Er fod DET yn ffigwr dadleuol, i nifer fawr o aelodaeth y Blaid yng Ngwynedd - sydd yn gyfran helaeth iawn o holl aelodaeth y Blaid - fe fydd Dafydd Elis-Thomas yn ddewis naturiol i arwain.

'Does gan Elin Jones ddim o'r un traddodiad o gefnogaeth, ond mae hi'n apelio at yr un garfan o aelodau yng Ngheredigion. Bydd ei record fel gweinidol eithriadol o lwyddianus yn y Cynulliad, ynghyd a'r plwyfoldeb sydd yn teyrnasu yn y Gymru Gymraeg o dan faner "bro-garwch", yn golygu y bydd hi yn mynd a chanran uchel o bleidlais Ceredigion a Sir Gar - dwy ardal arall sydd yn gartref i nifer helaeth o aelodau Plaid Cymru. Ac fe dybiwn i y bydd 'na gyfran helaeth o gefnogwyr Elin Jones yn rhoi ail bleidlais i DET, fel y bydd ei gefnogwyr ef yn rhoi ail-bleidlais iddi hi.

Mae gwendid ymgrych Leanne, yn fy marn i, yn adlewyrchu y gwendid sylfaenol sydd yn rhedeg drwy Blaid Cymru ar y funud, o ran ymgyrchu. Mae ei chefnogwyr yn weithgar, yn ymroddedig ac yn frwd; mae nhw'n ymgyrchwyr meddylgar, sydd yn benthyg arferion arloesgar o bedwar ban byd; yn ifanc, ac yn deallt sut i ddefnyddio'r cyfryngau newydd. Ond mae nhw'n ddall i'r ffaith nad yw'r tactegau hyn mor effeithiol ar lawr gwlad yn y rhannau hynny o Gymru sydd yn dir ffrwythlon i Blaid Cymru. Nid yw ymgyrch Twitter wych, neu darn cefnogol yn y Guardian, yn gwneud mymrun o wahaniaeth ar strydoedd Dyffryn Ogwen.

Dwi ddim yn dymuno swnio fel deinasor: mi ydw i'n ddyn sydd yn byw am bob dim technolegol (ac mewn bywyd arall yn cadeirio fforwm gyhoeddus sydd yn gwthio syniadau radical am bwysigrwydd y cyfryngau rhyngweithiol). Ond mi ydw i'n adnabod yr ardal o'm cwmpas yn reit dda. Mae Alun Ffred yn Aelod Cynulliad poblogaidd ym Methesda oherwydd ei fod yn rhoi prynhawn o'i amser i eistedd mewn neuadd gymuned oer unwaith bod rhyw dair wythnos i helpu i ddatrys problemau pobl leol. Mae fy nghyd-aelod lleol ar Gyngor Gwynedd, y Cynghorydd Ann Williams (Ogwen), yn cerdded hyd a lled ei ward yn wythnosol, yn siarad gyda ei phobl. Y math hyn o waith sydd yn gwneud Arfon yn sedd ddiogel i Blaid Cymru, a nid ei hymgyrch genedlaethol ddeniadol ac arloesol. Mae'r deniadol a'r arloesol yn bwysig, ond eisin ar y gacen ddylai o fod, a nid swmp a sylwedd unrhyw ymgyrch.

Ond beth am yr ymgeisydd ei hun? Mae ei gwleidyddiaeth yn wahanol iawn i fy ngwleidyddiaeth i, ond gellid dweud hynny am lawer iawn o aelodau Plaid Cymru - a dwi'n derbyn mae y fi yw'r eithriad yn y fan hyn, nid Leanne Wood. Fe ddywedodd hi rhyw dro y byddai'n ymuno a phlaid Respect, pe na bai Plaid Cymru yn bodoli, ac mae hynny'n fater o bryder i mi. Dwi'n credu bod angen i Blaid Cymru fod yn gynhwysol, gan leoli ei hun ar y tir canol gwleidyddol; a yw hyn yn gydnaws ac arweinydd sydd yn datgan cefnogaeth i blaid eithafol asgell chwith? Am yr un rheswm, mae ei brwdfrydedd dros "sosialaeth" yn broblem fawr i mi (er y gellid cyhuddo Dafydd Elis-Thomas hefyd o fyw yng nghysgod yr hen syniadaeth ddifaol honno hefyd). Ers goruwchafiaeth Tony Blair mae 'na son mawr am y "Clause Four Moment" fel cam hanfodol wrth adfywio plaid wleidyddol. I mi, byddai torri ymaith ymrwymiad cyfansoddiadol Plaid Cymru i "sosialaeth" yn rhoi'r foment bwysig hon i'r Blaid, ac yn sicr nid Leanne Wood fyddai'r arweinydd i arwain y frwydr honno.

Serch hynny, mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos fod gan Leanne Wood ddawn arbennig fel ymgyrchydd, a'r gallu i danio dychymyg rhai o'r to ifanc sydd wedi dadrithio gyda Phlaid Cymru. Mae wedi dangos ei gwerth i Blaid Cymru, ac wedi gwneud achos da iawn dros chwarae rol gyhoeddus amlycach. Draw dros yr Iwerydd, mae ymgyrch arlwyddol America yn dechrau codi stem, a fedra i ddim peidio a theimlo y byddai Leanne Wood yn gwneud dirprwy da iawn i Elin Jones ar balanced ticket mewn ras ar gyfer Arlwydd Cymru.

26.1.12

Arweinyddiaeth Plaid Cymru - Dafydd Ellis Thomas

Wedi cyfnod hir iawn o beidio blogio, mae'r ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi fy hudo yn ol. Dwi wedi gwneud rhyw sylwadau wrth basio ar Twitter, ond mae cymlethdodau'r ras yn gofyn am fedru dweud mwy nac y gellid ei ffitio mewn i 140 llythyren.

Heb fynd i swnio'n rhy negyddol, dwi ddim yn credu bod y cynnig sydd ger bron yr aelodau yn un arbennig o wefreiddiol. Mae'r broses o ddewis arweinydd - hyd yn hyn - wedi bod yn donic i'r Blaid, yn bennaf oherwydd y cynnwrf mae Leanne Wood wedi llwyddo i'w greu ymysg aelodau newydd, ifanc. Ond y teimlad dwi'n ei gael yw bod pedwar sydd yn y ras yn ddarpar arweinwyr dros dro. Dwi'n gwybod mor syrffedus yw clywed aelodau Plaid Cymru yn trin Adam Price fel Meseia, ond fedra i ddim peidio a theimlo mae cadw'r sedd yn gynnes i Adam fydd gwaith pa bynnag un o'r pedwar fydd yn llwyddianus.

Mae gen i rhyw deimlad efallai bod Dafydd Elis-Thomas yn teimlo 'run fath a fi. Dwi ddim yn argyhoeddedig fod DET yn dymuno bod yn arwain Plaid Cymru i mewn i etholiadau 2019; yn hytrach, dwi'n teimlo ei fod yn gweld yr her i'r Blaid yn y tymor canol, ac yn dymuno rhoi sefydlogrwydd iddi dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Os mae dyna'r bwriad, dwi ddim yn or-wrthwynebus i ymgeisyddiaeth yr Arglwydd. Dwi'n ymwybodol fod DET yn ffigwr dadleuol o fewn y Blaid, ond dwi ddim yn siwr faint o sylwedd sydd 'na i'r feirniadaeth ohono. Ei ddatganiadau ynglyn a chenedlaetholdeb a'r frwydr iaith sydd wedi gwneud niwed iddo, ac mae'r rhain yn deillio o ymgais i gymeryd safbwynt mwy nuanced ar y materion hyn - ymgais sydd wedi methu, i raddau helaeth, a sydd wedi arwain at ganfyddiad o fewn Plaid Cymru ei fod yn wrthwynebol i draddodiad cenedlaetholgar-ddiwylliannol y Blaid.

Dwi'n credu bod 'na wahaniaethau eithaf helaeth rhwng fy ngwleidyddiaeth i a gwleidyddiaeth DET - yn enwedig ar genedlaetholdeb diwylliannol, yr Undeb Ewropeaidd a materion rhyngwladol. Ond mae gen i barch mawr at allu DET, ac yn credu ei fod yn meddu ar y sgiliau cyfathrebu sydd yn angenrheidiol mewn arweinydd. Yng nghyd-destun Gwynedd, mae hefyd wedi bod yn eithriadol o gefnogol i waith y Cyngor. Y peth hawdd i'w wneud fyddai iddo neidio ar bob bandwagon Llais Gwynedd-aidd sydd yn pasio heibio; gwneud ei hun yn boblogaidd ar draul ei gyd-aelodau ar y Cyngor. Mae DET yn haeddu clod am beidio gwneud hyn, a rhoi ei gefnogaeth lawn i'r hyn mae Plaid Cymru yn ei wneud o fewn ei etholaeth.

Y maen tramgwydd mawr i mi yw perthynas Plaid Cymru a phleidiau eraill y Cynulliad. Mae Dafydd Elis-Thomas wedi ei gwneud yn berffaith blaen ei fod yn credu mae lle Plaid Cymru yw cyd-weithio a Llafur yn y Cynulliad i wthio agenda flaengar, Gymreig yn ei blaen. Mae wedi datgan y bydd yn gwthio'r Blaid i fabwysiadu'r egwyddor nad ydynt yn fodlon clymbleidio a'r Ceidwadwyr ar unrhyw gyfrif. Tra mod i'n deallt ei anfodlonrwydd i gyd-weithio a'r Toriaid, mae'n rhaid cofio bod 'na nifer fawr o bobl o fewn Plaid Cymru - minnau yn eu plith - sydd a gwrthwynebiad egwyddorol sylfaenol i glymbleidio gyda unrhyw un o'r pleidiau unoliaethol. Roeddwn i'n anhapus iawn ein bod ni wedi clymbleidio gyda Llafur yn 2007. Yn y tymor hir, mae gen i bryderon anferth am effaith cael un blaid yn tra-arglwyddiaethu dros ddemocratiaeth yng Nghymru, ac roedd Cymru'n Un yn atgyfnerthu'r unbleidiaeth yma. Ond, mi ydw i hefyd yn cydnabod fod Cymru'n Un wedi galluogi Plaid Cymru i gyflawni nifer o addewidion ei maniffesto, a hynny er bydd pobl Cymru. Mae clymbleidio yn rhan annatod o wleidyddiaeth Cymru ers 1999, ac mae'n rhaid i Blaid Cymru gymeryd agwedd bragmataidd at ddewis partneriaid. Mae mabwysiadu egwyddor o eithrio un blaid yn cyfyngu gallu Plaid Cymru i wthio agenda cenedlaetholdeb yn ei blaen.

Dyma pam na fedra i gefnogi Dafydd Elis-Thomas fel dewis cyntaf. Ond, dwi yn gefnogol i'w achos, ac yn credu y byddai'n gwneud arweinydd dros-dro rhagorol. Felly, oni bai fod pethau'n newid yn radical rhwng rwan a derbyn y papur pleidleisio, DET fydd yn cael fy ail-bleidlais i.

Ac o ran darogan y canlyniad? Dwi'n credu mae DET fydd yn yr ail safle ar ddiwedd y ras. Mi roi fy marn ar y 3 ymgeisydd arall dros y dyddiau nesaf.