3.2.12

Yr arweinyddiaeth - Leanne Wood

Mae ymgeisyddiaeth Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi bod ar fy meddwl tipyn heddiw. Cafodd le amlwg mewn erthygl yn y Guardian ddoe a arweiniodd at flog diddorol gan Betsan Powys heddiw A fel mae'n digwydd, mae hi wedi bod yn Nyffryn Nanlle heno, yn siarad ac aelodau; er nad oeddwn i yno fy hun, mae ambell un ar fy ffrwd Twitter wedi nodi bod dros 100 yn bresennol yno.


Yn ol John Harris yn y Guardian, Leanne Wood yw'r ffefryn i enill y ras. Dwi ddim yn dymuno bod yn amharchus tuag at Harris, gan fy mod yn mwynhau llawer o'i ysgrifennu. Ond newyddiadurwr yn ysgrifennu am gerddoriaeth yw Harris yn wreiddiol, sydd bellach yn ysgrifennu darnau gwleidyddol eithaf meddal, yn aml yn ymdrin a chymunedau dosbarth gweithiol, a'u dadrithiad gyda Llafur. Ysgrifennodd lyfr am yr union bwnc yma nol yn 2005 Yn y gyfrol honno, mae'n rhoi ychydig o le i Blaid Cymru, gan ysgrifennu darn yn clodfori'r Aelod Seneddol disglair, ifanc, Simon Thomas - a gollodd ei sedd yn San Steffan rai misoedd yn ddiweddarach. Felly maddeuwch i mi os nad ydw i'n rhoi gormod o bwys ar ddadansoddiad Mr Harris.

Un o wendidau Harris yw ei fod yn canolbwyntio yn ormodol ar straeon personol. Mae yn hoff o greu naratif afaelgar, yn troi o amgylch cymeriadau cryf (sydd ddim yn ormod o her i'w crynhoi mewn erthygl papur newydd o rhyw fil neu ddwy o eiriau). Ac mae stori Leanne Wood, ar hyn o bryd, yn un dda. Mae ganddi gefnogaeth rhai o enwau mawr y Blaid, ac ar Twitter a Facebook, ei henw hi sydd i'w glywed amlaf o beth dipyn. Hi yw'r lleiaf traddodiadol (o ran cefndir cymdeithasol), a'r mwyaf radical (o ran gwleidyddiaeth), o'r pedwar sydd yn y ras. Mae wedi adnabod yr angen am bendantrwydd ac eglurder ynglyn a phwrpas a chyfeiriad y Blaid, ac wedi gosod yr agenda; i'r fath raddau fel bod hyd yn oed Dafydd Elis-Thomas wedi rhoi semantics o'r neilltu, am y tro. Serch hyn i gyd, dwi'n credu nad oes gan Leanne obaith o enill, ac mae yn y trydydd safle - tu ol i Elin Jones a DET - fydd hi'n gorffen y ras.

Pam? Yn bennaf, oherwydd nad oes ganddi sylfaen gref o gefnogwyr ymhlith aelodau o'r Blaid, problem sydd yn mynd i gael ei gwaethygu gan y system bleidleisio gyfrannol. Dwi'n aelod o gangen Dyffryn Ogwen, sef yr ail gangen fwyaf yng Nghymru, ar ol Caernarfon. Mae llawer iawn o'r aelodau hyn wedi cefnogi Plaid Cymru ers degawdau, rhai - fel fi - yn blant i'r genhedlaeth o bobl ifanc a dorrodd gyda traddodiad Llafur/Rhyddfrydol eu rhieni ynghanol yr 20fed Ganrif i ymuno a Phlaid Cymru. Mae'r rhain yn bobl sydd yn adnabod Dafydd Elis-Thomas yn dda, a sydd yn teimlo cysylltiad teuluol ag o; mae llawer iawn o enw da Plaid Cymru yn Arfon a Meirionydd yn deillio o'r gefnogaeth a roddodd y ddau Ddafydd a Gwynfor Evans i'r cyn-chwarelwyr a'u teuluoedd a gafodd eu taro gan psilicosis. Er fod DET yn ffigwr dadleuol, i nifer fawr o aelodaeth y Blaid yng Ngwynedd - sydd yn gyfran helaeth iawn o holl aelodaeth y Blaid - fe fydd Dafydd Elis-Thomas yn ddewis naturiol i arwain.

'Does gan Elin Jones ddim o'r un traddodiad o gefnogaeth, ond mae hi'n apelio at yr un garfan o aelodau yng Ngheredigion. Bydd ei record fel gweinidol eithriadol o lwyddianus yn y Cynulliad, ynghyd a'r plwyfoldeb sydd yn teyrnasu yn y Gymru Gymraeg o dan faner "bro-garwch", yn golygu y bydd hi yn mynd a chanran uchel o bleidlais Ceredigion a Sir Gar - dwy ardal arall sydd yn gartref i nifer helaeth o aelodau Plaid Cymru. Ac fe dybiwn i y bydd 'na gyfran helaeth o gefnogwyr Elin Jones yn rhoi ail bleidlais i DET, fel y bydd ei gefnogwyr ef yn rhoi ail-bleidlais iddi hi.

Mae gwendid ymgrych Leanne, yn fy marn i, yn adlewyrchu y gwendid sylfaenol sydd yn rhedeg drwy Blaid Cymru ar y funud, o ran ymgyrchu. Mae ei chefnogwyr yn weithgar, yn ymroddedig ac yn frwd; mae nhw'n ymgyrchwyr meddylgar, sydd yn benthyg arferion arloesgar o bedwar ban byd; yn ifanc, ac yn deallt sut i ddefnyddio'r cyfryngau newydd. Ond mae nhw'n ddall i'r ffaith nad yw'r tactegau hyn mor effeithiol ar lawr gwlad yn y rhannau hynny o Gymru sydd yn dir ffrwythlon i Blaid Cymru. Nid yw ymgyrch Twitter wych, neu darn cefnogol yn y Guardian, yn gwneud mymrun o wahaniaeth ar strydoedd Dyffryn Ogwen.

Dwi ddim yn dymuno swnio fel deinasor: mi ydw i'n ddyn sydd yn byw am bob dim technolegol (ac mewn bywyd arall yn cadeirio fforwm gyhoeddus sydd yn gwthio syniadau radical am bwysigrwydd y cyfryngau rhyngweithiol). Ond mi ydw i'n adnabod yr ardal o'm cwmpas yn reit dda. Mae Alun Ffred yn Aelod Cynulliad poblogaidd ym Methesda oherwydd ei fod yn rhoi prynhawn o'i amser i eistedd mewn neuadd gymuned oer unwaith bod rhyw dair wythnos i helpu i ddatrys problemau pobl leol. Mae fy nghyd-aelod lleol ar Gyngor Gwynedd, y Cynghorydd Ann Williams (Ogwen), yn cerdded hyd a lled ei ward yn wythnosol, yn siarad gyda ei phobl. Y math hyn o waith sydd yn gwneud Arfon yn sedd ddiogel i Blaid Cymru, a nid ei hymgyrch genedlaethol ddeniadol ac arloesol. Mae'r deniadol a'r arloesol yn bwysig, ond eisin ar y gacen ddylai o fod, a nid swmp a sylwedd unrhyw ymgyrch.

Ond beth am yr ymgeisydd ei hun? Mae ei gwleidyddiaeth yn wahanol iawn i fy ngwleidyddiaeth i, ond gellid dweud hynny am lawer iawn o aelodau Plaid Cymru - a dwi'n derbyn mae y fi yw'r eithriad yn y fan hyn, nid Leanne Wood. Fe ddywedodd hi rhyw dro y byddai'n ymuno a phlaid Respect, pe na bai Plaid Cymru yn bodoli, ac mae hynny'n fater o bryder i mi. Dwi'n credu bod angen i Blaid Cymru fod yn gynhwysol, gan leoli ei hun ar y tir canol gwleidyddol; a yw hyn yn gydnaws ac arweinydd sydd yn datgan cefnogaeth i blaid eithafol asgell chwith? Am yr un rheswm, mae ei brwdfrydedd dros "sosialaeth" yn broblem fawr i mi (er y gellid cyhuddo Dafydd Elis-Thomas hefyd o fyw yng nghysgod yr hen syniadaeth ddifaol honno hefyd). Ers goruwchafiaeth Tony Blair mae 'na son mawr am y "Clause Four Moment" fel cam hanfodol wrth adfywio plaid wleidyddol. I mi, byddai torri ymaith ymrwymiad cyfansoddiadol Plaid Cymru i "sosialaeth" yn rhoi'r foment bwysig hon i'r Blaid, ac yn sicr nid Leanne Wood fyddai'r arweinydd i arwain y frwydr honno.

Serch hynny, mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos fod gan Leanne Wood ddawn arbennig fel ymgyrchydd, a'r gallu i danio dychymyg rhai o'r to ifanc sydd wedi dadrithio gyda Phlaid Cymru. Mae wedi dangos ei gwerth i Blaid Cymru, ac wedi gwneud achos da iawn dros chwarae rol gyhoeddus amlycach. Draw dros yr Iwerydd, mae ymgyrch arlwyddol America yn dechrau codi stem, a fedra i ddim peidio a theimlo y byddai Leanne Wood yn gwneud dirprwy da iawn i Elin Jones ar balanced ticket mewn ras ar gyfer Arlwydd Cymru.

3 comments:

Richard said...

Blog diddorol. Dwi'n cytuno i raddau a'r sylwadau am effaith y wasg a Twitter ond dwi'n credu bod Leanne yn llawer mwy poblogaidd yn genedlaethol na dych chi'n meddwl.

Dywedoch chi hyn:

"Pam? Yn bennaf, oherwydd nad oes ganddi sylfaen gref o gefnogwyr ymhlith aelodau o'r Blaid,"

- ond dwi ddim yn credu bod hynny yn wir. Cafodd Leanne mwy o enwebiadau na'r 3 ymgeisydd eraill gyda'u gilydd.

Bues i yn Ysgol Haf a Chynhadledd y Blaid eleni ac roedd y cefnogaeth i Leanne yn anhygoel. Mae hi wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ers 20 mlynedd a'r ffaith bod hi wedi cael ei dewis ar dop y rhestr yn Nghanol De Cymru yn deyrnged hefyd i'w phoblogrwydd.

Byddwn i'n eich annog chi i edrych ar syniadau Leanne yn fanylach. Mae ei dogfen 'Cynllun Gwyrdd' yn dangos syniadau synhwyrol i adnewyddu ein cymunedau. Dros yr wythnos ddiwethaf mae hi wedi bod yn cyfarfod a phleidwyr mewn cyfarfodydd ar draws y gogledd.

Dych chi'n hollol gywir i ddweud nad yw ymgyrch ar-lein ac yn y wasg yn ddigon - a dyna pam mae Leanne yn siarad a chymaint o bobl fel rhan o'r ymgyrch.

Deallaf hefyd nad ydych o'r union un farn gwleidyddol a Leanne. I gyd allwn i ddweud ydy - ystyriwch hefyd ei thalentau hi fel gwleidydd a'i hymrwymiad at materion cymunedol, yr iaith Gymraeg ac amgylchedd cynaliadwy.

Mae lot mwy i Leanne na mae rhai pobl yn dweud.

Dylan said...

Mae yna lawer o wirionedd yn yr hyn rwyt ti'n ei ddweud, ac mae'n sicr yn wir bod angen llawer mwy nag ymgyrch ar-lein ac ati. Ond dw i wir yn dechrau cael yr argraff bod hyd yn oed llawer o aelodau traddodiadol y Blaid yn cynhesu at Leanne.

Mae hi wedi cynnal cyfarfodydd yn Arfon ac wedi denu llawer iawn o gefnogwyr. Mae hefyd yn bosibl iawn bod bod cefnogaeth Dafydd Iwan hyd yn oed yn fwy o coup iddi nag un Adam Price.

Nid oes dwywaith bod y ras am fod yn un agos, ac mae'n bosibl iawn bydd yr ail a'r drydedd bleidleisiau'n fanteisiol i Elin. O'm rhan i, ni fyddwn yn rhy anfodlon efo EJ fel arweinydd. Ond par o ddwylo saff ydi hi'n y bôn. Dw i'n credu bod gan LW fwy o allu i ysbrydoli ac i finiogi neges y Blaid.

Un peth sy'n sicr: os yw Dafydd Elis-Thomas yn ennill, y peth cyntaf byddaf yn ei wneud fydd canslo f'aelodaeth.

Rhys Llwyd said...

Fel un o gefnogwyr Leanne fy mhryder i dros y Nadolig oedd fod rhai o'i chefnogwyr hi o'r De-Ddwyrain yn rhoi llawer gormod o bwys ar gael gwefan dda, ymgyrch frwd ar Facebook a llawer o storiau yn y Western Mail a hynny, wrth gwrs, ar draul mynd ar ôl 50% o aelodau'r Blaid sydd ddim ar-lein!

Ond er mae Leanne, fe ymddengys, sydd ar ymgyrch 2.0 gryfaf hi hefyd, rwy'n falch o weld erbyn hyn, sydd a'r ymgyrch yn y cnawd gryfaf hefyd. Mi fues i i'r cyfarfod ym Mlaenau bythefnos yn ôl (30 yno) ac ym Mhenygroes nos Wener (90rhywbeth yno). Beth oedd yn hynod am y cyfarfodydd yma yng nghadarnleoedd y "Fro Gymraeg" oedd fod llawer o bobl wedi dod, efallai, yn amheus o Leanne ond wedi gadael wedi eu synnu i.) gyda'i gallu hi ysbrydoli pobl (i gymharu ac annallu un ymgeisydd arall i ysbrydoli pobl mewn cyfarfod yn y cylch yn ddiweddar) ac ii.) ei parodrwydd hi, er yn ddysgwraig, i draddodi peth o;i haraith yn Gymraeg a cheisio ateb cwestiynnau yn Gymraeg. Mae ei Chymraeg yn bell o fod yn rhugl - ond mae pobl wir wedi eu cipio gyda'i pharodrwydd i ddysgu fel un o genhedlaeth y Cymoedd gafodd y Cymraeg wedi eu cymryd oddi arnyn nhw.

Tan yr wythnosau diwethaf hefyd doedd llawer (gan gynnwys fi, rhaid cydnabod) heb sylwi fod yna feddyliwr craff tu ôl i'r ymgyrchydd huawdl. Mae ei Chynllyn Gwyrdd hi i'r Cymodd yn blueprint ar gyfer polisi cyfan y Blaid ac ei dogfen hi ar Gyfiawnder Troseddol sydd yn arwain polisi y Blaid ar y pwnc hefyd. Nid sound-bites o ddogfennau yw rhain, ond gweithiau trwm a meddwl treiddgar tu ôl iddyn nhw.